Singing welsh dragon toy for children and babies
Welsh dragon toy for children and babies
Welsh dragon toy for children and babies
Welsh dragon toy for children and babies
Welsh dragon toy for children and babies
Welsh dragon toy for children and babies. Children playing with welsh singing dragon toy.
DRAIGI™ Y DDRAIG GOCH SY'N CANU YN GYMRAEG

DRAIGI™ Y DDRAIG GOCH SY'N CANU YN GYMRAEG

Regular price
£30.00
Sale price
£30.00
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Croeso i DRAIGI™, y ddraig goch Ddraigwyddol o Gymru!  Hon yw’r ddraig goch Gymreig gyntaf i ganu - a hynny’n hen bryd! Bu’r ddraig goch a’i hanes hudolus yn ganolog i’n hanes ni ers blynyddoedd maith, ac rydym wedi ei haddoli ers cyn cof.  Hi yw symbol ein baner genedlaethol, hi sydd yn cynrychioli ein Cymreictod a’n hanes cyfoethog yn fyd-eang, hi sydd yn anfarwoli ein gwlad!

Y tro nesaf y byddwch chi’n mynd i ddigwyddiad Cymreig gyda’ch baner a’ch llais gorau, cofiwch fynd â DRAIGI gyda chi!

Mae DRAIGI yn ychwanegiad i’n traddodiad cerddorol gwych.  Bydd ei seiniau’n cadw ein caneuon cenedlaethol yn fyw ar gof ein plant; caneuon poblogaidd ar gyfer pob achlysur, ar gae a dan do;  4 ohonynt, sef:-

  • Hen wlad fy Nhadau
  • Sosban Fach
  • Calon Lân
  • Ar hyd y nos,

I gael gweld y geiriau i’r caneuon yma, lawr lwythwch y ddogfen isod:- Taflen Geiriau Caneuon DRAIGI