Privacy policy
Si-Lwli Cymru Cyf
Yr ydym ni yn ymdduro i gwneud popeth y fedrem ni i ddiogelu a parchu eich preifatrwydd.
Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fo Si-Lwli Cymru Cyf yn casglu gwybodaeth bersonol. Mae’n berthnasol i wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am:
- ymwelwyr i’n gwefannau
- pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau
Pan fo rhywun yn ymweld â http://www.silwli.cymru rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau o’r safle. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd sy’n golygu na allwn ddarganfod pwy yw’r unigolion dan sylw. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i ddarganfod enwau’r rheini sy’n ymweld â’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell. Os byddwn yn dymuno casglu gwybodaeth bersonol trwy ein gwefan byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynny. Byddwn yn dweud wrthych yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda’r wybodaeth.
Rydym yn dal peth gwybodaeth rydym wedi casglu gennych ar serfiwr system cwmwl, o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998.
Defnydd o ‘cookies’
Gallwch ddarllen mwy ar sut yr ydym yn defnyddio ‘cookies’ ar ein tudalen Cwcis [x]
Arolygon ar-lein
Ar adegau fe allem ddefnyddio gwefan trydydd parti fel ‘Survey Monkey’ i ymgynghori gyda ein cwsmeiriaid – pan fydd hynny’n digwydd ni fyddwn ond yn casglu gwybodaeth sydd wedi ei hanonimeiddio; ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chasglu na’i chadw.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol i ddibenion marchnata. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data i unrhyw ddiben o’r fath neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti i’r un perwyl. Gallwch ymarfer eich hawl i rwystro prosesu o’r fath trwy gysylltu â ni yn silwli@silwlicymru.co.uk
O bryd i’w gilydd gall ein safle gynnwys cysylltiadau i ac o’r gwefannau sydd gan ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chyswllt os byddwch yn dilyn cyswllt i unrhyw un o’r gwefannau hyn nodwch os gwelwch yn dda bod ganddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Edrychwch ar y polisïau hyn os gwelwch yn dda cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau.
Mynediad i wybodaeth bersonol
Rydym yn ceisio bod mor agored â phosib o ran rhoi mynediad i bobl i’w gwybodaeth bersonol. Gall unigolion ddarganfod a oes gennym wybodaeth bersonol amdanynt trwy wneud ‘cais gwrthrych am wybodaeth’ dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Os bydd gennym wybodaeth amdanoch byddwn yn:
- rhoi disgrifiad ohoni;
- dweud wrthych pam mae’r wybodaeth gennym;
- dweud wrthych i bwy y gellir datgelu’r wybodaeth; a
- rhoi copi o’r wybodaeth ar ffurf ddealladwy.
Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i chi gael mynediad i wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch ymarfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Rhaid i unrhyw gais i weld gwybodaeth fod yn ysgrifenedig ac fel arfer bydd angen talu ffi o £10 i gwrdd â’n costau yn darparu manylion am y wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Os os gennym wybodaeth amdanoch, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau trwy gysylltu a silwli@silwlicymru.co.uk
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i’r polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu gosod ar y dudalen hon a, lle mae hynny’n briodol, cewch wybod amdanynt trwy e-bost. Dewch yn ôl i’r dudalen hon yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd. Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ym Mawrth 2017.
Datgelu gwybodaeth bersonol
Mewn llawer o amgylchiadau ni fyddwn yn datgelu data personol heb ganiatâd. Fodd bynnag, efallai gawn ein orfodi gan gyfraith i ddatgelu gwybodaeth bersonol, er enghraifft, Cyllid a Thollau, yr Heddlu, Gwasanaethau Iechyd ac Asiantaethau eraill.
Cysylltiadau a gwefannau eraill
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r cysylltiadau o fewn y safle hwn sy’n cysylltu â gwefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar wefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.
Sut i gysylltu â ni
Os ydych yn dymuno gofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd gallwch anfon e-bost atom neu ysgrifennu at Si-Lwli Cymru Cyf, Cae Maen, Ffordd Penclip, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5BY E-bost helo@silwlicymru.co.uk