Refund policy

Polisi Ad-daliadau ac Amnewid Nwyddau

Gobeithiwn eich bod yn hapus â’r hyn yr ydych wedi’i brynu. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwbl fodlon rydym yn hapus i gynnig un o’r opsiynau canlynol:-

Dychwelyd

Er mwyn gofyn am ad-daliad neu newid yr eitem/eitemau, ar y pris prynu, gellir dychwelyd unrhyw eitem sydd mewn cyflwr y gellir ei werthu eto, o fewn 28 diwrnod i’w brynu os oes gennych dderbynneb unai gennym ni dros ein wefan www.silwli.cymru neu drwy un o’n manwerthwyr. Defnyddiwch y pecyn gwreiddiol i’w anfon yn ôl a dylech gynnwys eich derbynneb a nodyn yn rhoi’r rheswm dros ddychwelyd yr eitem/eitemau.

Noder nad oes modd dychwelyd ein tocynnau rhodd.

Nwyddau Diffygiol

Os yw’r eitem yn ddiffygiol, rydym yn hapus i newid yr eitem neu gynnig ad-daliad o fewn chwe mis o'r dyddiad y gwnaethoch chi brynu'r eitem.  Fydd angen i chi fedru dangos dystiolaeth o’ch archeb i ni.

Os ydych yn dychwelyd eitem oherwydd ei fod yn ddiffygol neu oherwydd ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am y costau postio. Fel arall, chi fydd yn gyfrifol am gostau o’r fath.

Ad-daliadau (os yn berthnasol)

Unwaith y bydd yr eitem/eitemau yr ydych yn eu dychwelyd wedi cyrraedd ac ein bod wedi eu harchwilio, byddwn yn anfon e-bost atoch i’ch hysbysu ein bod wedi derbyn yr eitem yr ydych yn ei ddychwelyd. Byddwn hefyd yn eich hysbysu a yw eich ad-daliad yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ad-daliad, cysylltwch â ni drwy anfon neges i helo@silwlicymru.co.uk.  

Cyfnewid

Byddwn ond yn newid eitemau os ydynt yn ddiffygiol neu wedi eu difrodi. Os yr ydych yn dymuno ei newid am yr un eitem, cysylltwch â ni drwy anfon neges at helo@silwlicymru.co.uk.

Nid oes unrhyw beth a nodir yma yn effeithio ar eich hawliau statudol. Bydd yr holl ad-daliadau ac unrhyw newid eitem/eitemau yn cael ei ddelio ag ef o fewn ein hamodau a thelerau safonol.

Am fwy o wybodaeth gweler ein Telerau Busnes.

 

I wneud cais yn awtomatig i eitem ddychwelyd, cliciwch ar y ddolen isod a dilynwch y cyfarwyddiadau. https://shopify.com/52636549279/account