![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/getimg_051d04ef-d100-485e-b03f-32d54b7d94d0_{width}x.jpg?v=1646770040)
Dyw Jemima Nicholas, neu Jemima Fawr i bawb yn Abergwaun, ddim yn credu stori'r plant fod Ffrancwyr wedi glanio ger y pentref ar 22 Chwefror 1797! Ond mae'n wir ac maen nhw wrthi'n ymosod ar drigolion yr ardal. Ond beth all merch o grydd â dim ond picwarch yn arf ei wneud yn erbyn cannoedd o filwyr arfog - wel, dychryn a dal rhai ohonynt, wrth gwrs!