Dyma ddau boster rhifau a llythrennau'r wyddor Gymraeg. Mae'r posteri yn adnodd i gefnogi llyfrau 'Math y Mwydyn - Rhifau o bob Math' a 'Math y Mwydyn - Llythrennau o bob Math'. Mae'r llyfrau yma wedi eu hanelu at blant sydd yn dysgu sut i ffurfio llythrennau a rhifau. Gellir llungopio'r taflenni sydd ynddynt.