Seren Swynol Star-shaped Welsh toy that sings five welsh songs.
Seren Swynol Star-shaped Welsh toy that sings five welsh songs.Seren Swynol welsh toy with baby in moses basket.
Seren Swynol Star-shaped Welsh toy that sings five welsh songs.Seren Swynol toy with baby boy.
Baby boy playing with Seren Swynol Welsh toy.
Baby chewing Seren Swynol Welsh toy.
Baby boy playing with the Silwli Cymru Seren Swynol Welsh toy.
Seren Swynol and Draigi Welsh toys by Silwli Cyrmu
Baby opening Seren Swynol Welsh toy by Silwli Cymru.

Seren Swynol™ Y Seren Gerddorol Cymraeg

pris rheolaidd
£29.99
pris gwerthu
£29.99
pris rheolaidd
Rhestr Aros
label pris uned
yr un 
Yn cynnwys treth. Shipping calculated at checkout.

Ar gael fel bwndel gyda Draigi - Bwndel Draigi a Seren Swynol

Mae’r tegan gyntaf i ganu’n Cymraeg yn ôl ac yn well na erioed! Does ddim syndod fod hwn yn gwerthu mor dda; ddaru filoedd o bobol disgwyl dwy flynedd i weld hwn nol mewn stoc! “Trysor Cenedlaethol” meddant nhw - a bysa rhaid i ni gytuno, yn enwedig gan oedd y fersiwn gyntaf wedi’i greu a chariad ar gyfer ein baban bach ar yr amser Cari Môn, sy’n chwech bellach! Mae Cymru wedi gwirioni gyda’n Seren Swynol, ac yr ydyn mor falch i’w gael yn ôl ar y farchnad!


Mae’r 5 can ar y Seren Swynol wedi dod syth oddi ar Cwm-Rhyd-Y-Rhosyn (lleisiau Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones). Cliciwch ar y ddolenni isod i lawrlwytho y caneuon meen ffyrdd poster bach:-

Mewn ymdrech i leihau ein hôl troed carbon yn hytrach na chael cardiau caneuon wedi'u hargraffu rydym wedi penderfynu cael cardiau caneuon y gellir eu llwytho i lawr yn hytrach na'u hargraffu. Gallwch argraffu a lawrlwytho cymaint o weithiau ag y dymunwch. Gellir cyrchu'r ffeiliau hyn trwy glicio ar y teitlau caneuon uchod

Cipiwch y drysor cenedlaethol yma i’ch hunain tra bod stoc yn parhau.

  • 28cm x 28cm x 8cm
  • DIM BATRIS WEDI CYNNWYS - Angen 3 x AA
  • ADDAS O 0+
Customer Reviews
5.0 Based on 53 Reviews
5 ★
100% 
53
4 ★
0% 
0
3 ★
0% 
0
2 ★
0% 
0
1 ★
0% 
0
Write a Review

Thank you for submitting a review!

Your input is very much appreciated. Share it with your friends so they can enjoy it too!

Filter Reviews:
JM
10/04/2021
Jan M.

Si lwli

We’d prynu’r seren swynol a draigy a mae fy ddwy wyres worth ei bodd. Mae nhw yn ardderchog diolch yn fawr.

11/04/2021

Si-Lwli Cymru

Diolch o galon i chi am yr adolygiad Jan - maen meddwl lot fawr i ni! Cofion gorau, Awena

BO
06/28/2021
Barbara O.

Draigi a seren

Wedi prynu y ddau I’m wyr ac Mae o wedi joio cael nw. Diolch enfawr

R
06/30/2021
Rwth

Seren Swynol

Pan anwyd fy mab yn 2019, fe dderbyniodd Seren Swynol fel anrheg. Mae'n 2 a hanner rwan ac yn chwarae'r caneuon arno mwy nag erioed. Ei hoff ganeuon yw Mynd drot drot a Dacw mam yn dwad. Ganddo hefyd Draigi sy'n wych, ond Seren yw'r ffefryn ar hyn o bryd......

01/07/2021

Si-Lwli Cymru

Diolch gymaint am yr adolygiad - tydy'r teganau byth yn mynd yn hen yn ty ni chwaith!! Mor neis i glywed eich adborth. Diolch yn fawr, Awena

SM
06/30/2021
Siân M.

Tegan perffaith i'r pram

Mae'r Seren Swynol yn berffaith i'r pram i ddiddanu'r ferch tra'n mynd am dro. Wrth ein boddau efo'r caneuon!

01/07/2021

Si-Lwli Cymru

Diolch yn fawr dwi'n falch eich bod yn mwynhau! Mae'na caneuon wahanol ar y fersiwn newydd i chi fwynhau hefyd :-)

G
06/30/2021
Gwyneth

Tegan i'w drysori

Wedi prynu'r Seren Swynol pan roedd y ferch hynaf yn 11 mis (sydd rwan yn bedair oed), mae hi wedi dysgu bob cân ar hon. Ac rwan mae o wir yn dod a gwên i wyneb y ferch fengaf sydd rwan yn 10 mis oed. Wrth fy modd hefo hwn, nis oes tegan tebyg iddo!

02/07/2021

Si-Lwli Cymru

Diolch gymaint mae hwn yn dod a gwen mawr i fy ngwyneb! Geiriau mor caredig a mor neis i glywed fod o wedi para mor dda! Cofion, Awena x