Ein Stori

“Dysgu trwy chwarae” yw amcan y cwmni – rydyn yn neud hyn  creu teganau hwylus Cymraeg sy’n rhan o bywyd bod dydd eich teulu, ond sydd hefyd yn cynrychioli ein hunaniaeth, diwylliant a Cymreictod yma’n Gymru.

 Tegannau Cymraeg - Welsh Toys - Welsh Toy - Tegan Cymraeg

Cwmni teuluol wedi sefydlu’n Ynys Mon ydyn ni. Dechreuodd y cwmni bron drwy ddamwain pan roedd ein merch Cari Mon (bellach yn 5 oed) yn gael trafferth cysgu. Pederfynom creu tegan Cymraeg i helpu iddi gysgu mewn siâp seren. Oedd Cari wedi mopio a weithiodd yn wych! Oedd ein ffrindiau a teulu hefo diddordeb mawr yn y tegan, ac felly penderfynom trio creu nifer swmpus ohonynt a weld sut bysen yn gwerthu. Oedd creu’r seren yn broses anodd a chymleth iawn gan nad oedd ganddon ni unrhyw profiad o creu teganau cynt! Ond nid oedd angen poeni, gyda’r batch gyntaf wedi werthu allan mewn mis, a’r ail a’r trydydd rhywbeth tebyg, oedd o’n amlwg ein bod yn iawn i feddwl fod angen i deganau o’r fath ar y farchnad. Aethom ati i wedyn creu Draigi (wedi ysbrydoli gan ein ail blentyn Mabon).  Oedd Draigi yn hit mawr unwaith eto, a bellach hefyd wedi gwerthu allan ac yn symbol o Gymru a Cymreictod a wastad yn gael ei tynnu fewn i bob llun rygbi a Gŵyl Dewi sy’n mynd, sydd yn wych!

 

 

Mae’n teganau’n caethiwus i blant a babis sydd yn amal iawn yn gwrthod cysgu, setlo na gadael y tŷ hebddynt!! Ers i’r cwmni gael ei sefydlu yn 2017 rydyn wedi gwerthu dros 12,000 o teganau, sy’n anhygoel i feddwl ein bod wedi cau am dros blwyddyn o’r cyfnod yna hefyd! “Trysorau Cenedlaethol” yw’r teganau bellach, ac maent yn angenrheidiol ar gyfer bob cartref sydd eisiau weld yr iaith yn blodeuo yn bywyd dyddiol eu plant.

Photos by Simcowithax - https://www.simcowithax.co.uk/post/si-lwli-cymru-meet-the-family-behind-the-first-welsh-singing-toy