Bwndel Deian a Loli  - Teganau Meddal - Canu a Siarad Cymraeg!  (Blaen Archeb)
Bwndel Deian a Loli  - Teganau Meddal - Canu a Siarad Cymraeg!  (Blaen Archeb)
Bwndel Deian a Loli  - Teganau Meddal - Canu a Siarad Cymraeg!  (Blaen Archeb)

Bwndel Deian a Loli - Teganau Meddal - Canu a Siarad Cymraeg! (Blaen Archeb)

pris rheolaidd
$63.00
pris gwerthu
$63.00
pris rheolaidd
Rhestr Aros
label pris uned
yr un 
Yn cynnwys treth. Shipping calculated at checkout.

Plis nodwch:- Blaen-archeb! Ddim yn cyrraedd tan diwedd mis Tachwedd/dechrau Rhagfyr. Fe wnawn cysylltu hefo chi unwaith y maent ar eu ffordd i chi!

Croeso i aelodau newydd sbon deulu teganau cerddorol Si-lwli Cymru! Ond mae'r teganau yma bach yn wahanol i'r arfer - gan y maent yn canu ac yn siarad! Ein teganau mwyaf technegol a chŵl erioed, hyd yn oed ys ydyn yn dweud ein hunain! Syniad o'r cyfnod clo nol yn 2020. 3 mlynedd galed o waith datblygu, a dyma nhw yn barod am un o'u hanturion mwyaf arbennig erioed lle maent yn dod yn fyw yn gartrefi plantos Cymru!

Mae Deian a Loli wastad yn barod am antur. Yr anrheg berffaith i blantos Cymru. Mae Deian a Loli lawn talent, ac yn canu alaw Deian a Loli pan yr ydych yn gwasgu'r botwm sain ar eu llaw, ac yn adrodd nifer o frawddegau gwahanol pan yr ydych yn gwasgu'r botwm ar eu bol. Am fwy o wybodaeth ar y teganau unigol gwelwch Deian a Loli ar-wahan.

Does ddim gwahaniaeth os mae’ch plentyn yn dilyn Deian a Loli ar y teledu neu beidio - nid oes tegan tebyg i hwn ar y farchnad, ac mae'ch plantos siŵr o fynd a Deian a Loli hefo nhw ar bob antur ar draws y byd o hyn allan!!

Addas o 3+

UKCA

Yn cymryd 3 x batri AAA