
Croeso i DRAIGI™, y ddraig goch Ddraigwyddol o Gymru! Hon yw’r ddraig goch Gymreig gyntaf i ganu - a hynny’n hen bryd! Bu’r ddraig goch a’i hanes hudolus yn ganolog i’n hanes ni ers blynyddoedd maith, ac rydym wedi ei haddoli ers cyn cof. Hi yw symbol ein baner genedlaethol, hi sydd yn cynrychioli ein Cymreictod a’n hanes cyfoethog yn fyd-eang, hi sydd yn anfarwoli ein gwlad!
Mae DRAIGI yn ychwanegiad i’n traddodiad cerddorol gwych. Bydd ei seiniau’n cadw ein caneuon cenedlaethol yn fyw ar gof ein plant; caneuon poblogaidd ar gyfer pob achlysur, ar gae a dan do; 4 ohonynt, sef:-
- Hen wlad fy Nhadau
- Sosban Fach
- Calon Lân
- Ar hyd y nos,
I gael gweld y geiriau i’r caneuon yma, lawr lwythwch y ddogfen isod:- Taflen Geiriau Caneuon DRAIGI
Dimensiynau y ddraig:-
- 20cm x 15cm x 18cm