Ydy draig wir yn gallu dysgu rhannu? Mae Cochen yn ddraig dda iawn. Mae hi’n dilyn pob un o Reolau’r Dreigiau: mae hi’n dwyn oddi wrth BAWB, ac mae hi’n gwrthod rhannu ei thrysor â NEB. Mae’r anifeiliaid eraill yn dechrau cael llond bol go iawn. Petaen nhw ond yn gallu newid Rheolau’r Dreigiau. Stori wych am bwysigrwydd rhannu ac am werth cyfeillgarwch.