
Mabon fy mab sydd wedi gwyrioni gyda'r gofod ddewisiodd hon i'r gasgliad!
Cyn y Glec Fawr doedd DIM BYD O GWBL. Dim galaethau, dim sêr, dim planedau a dim bywyd. Dim amser, dim gofod, dim golau a dim sŵn. Yna'n sydyn, 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl, DECHREUODD POPETH... Mae'r stori hon am ein bydysawd wedi'i darlunio'n hyfryd ar gyfer plant iau. Addasiad Cymraeg Siân Lewis o The Story of Space.