
Degfed teitl y gyfres boblogaidd, Helpwch eich Plentyn. Dyma gyfrol fywiog a fydd yn hybu'r iaith Gymraeg ymysg yr ifanc. Mae'n cynnwys nifer o ymarferion hwyliog a diddorol a fydd yn symbylu plant wrth iddyn nhw fynd ati i feithrin sgiliau allweddol wrth ddysgu'r iaith. Bydd yr amrywiaeth o dasgau yn cynorthwyo plant i ddysgu Cymraeg mewn dim o dro!